Katherine Jones, A Visit from a Stork

Grange Hospital - Long Storks.jpg
 

A Visit from a Stork

 
2G1A9733.jpg

Katherine Jones has created two artworks for the maternity department, drawing for inspiration on local bodies of water and folkloric tales of storks delivering babies. She notes that storks now have a special relevance because they recently have been successfully reintroduced to the UK after becoming extinct, with the first pair of breeding storks for 600 years having their own young.

The drawings reference Cwmbran boating lake and locations along the Afon Lwyd - the river running through Cwmbran. We see 450-year-old Llan yr Afon Manor, now a rural heritage centre, and the Afon Lwyd Weir and bridge, at Pontymoile. These structures anchor the surrounding landscapes, which is formed of detailed patterns in black and white with hints of yellow and blue.

Katherine-Jones_DSC0954.jpg

Katherine said: “It was a fantastic project to be asked to do by Studio Response and wonderful to see it brought to life once installed in the maternity ward. I really enjoyed producing the two pieces at different scales. It was a lovely way for me to be able to link my bird drawings to the surrounding landscape, and anchor in some architectural features too.”

Katherine-Jones_DSC0803.jpg

Mae Katherine Jones wedi creu dau waith celf ar gyfer yr adran famolaeth, gan ddefnyddio cyrff dŵr lleol a chwedlau llên gwerin am giconia yn dod â babanod fel ysbrydoliaeth. Noda fod ciconiaid yn arbennig o berthnasol nawr gan iddynt gael eu hailgyflwyno'n llwyddiannus i'r DU yn ddiweddar ar ôl diflannu o'r tir, gyda'r pâr cyntaf o giconiaid bridio ers 600 mlynedd yn magu eu cywion eu hunain.

Mae'r darluniau'n dangos llyn cychod Cwmbrân a lleoliadau ar hyd Afon Lwyd - yr afon sy'n rhedeg drwy Gwmbrân. Gwelwn Blasty Llan yr Afon, sy'n 450 oed a bellach yn ganolfan dreftadaeth wledig, a Chored a phont Afon Lwyd, ym Mhont-y-moel. Mae'r strwythurau hyn yn angori'r tirweddau cyfagos, sydd wedi'u ffurfio o batrymau manwl mewn du a gwyn gydag arlliw o felyn a glas.

Katherine-Jones_DSC0812.jpg

Meddai Katherine: “Roedd yn brosiect gwych i Studio Response ofyn i mi weithio arno ac roedd yn hyfryd ei weld yn dod yn fyw ar ôl ei osod yn y ward famolaeth. Fe gefais fwynhad mawr yn creu'r ddau ddarn ar wahanol raddfeydd. Roedd yn ffordd hyfryd i mi gysylltu fy narluniau adar â'r dirwedd, ac ymgorffori rhai nodweddion pensaernïol hefyd."

Katherine-Jones_DSC0829.jpg
 
 

About the artist | Yr artist

Katherine Jones is an artist based in Cardiff, who is also a fully qualified architect. Her work comprises memory boxes – curated collections of found and treasured objects – as well as intricately detailed pen and ink drawings. Her pen, ink and watercolour drawings of landscapes, cityscapes, individual buildings and animals are inspired by her architectural training. She has completed commissions for the National Trust, National Museum of Wales and Cardiff University.

Artist o Gaerdydd yw Katherine Jones, ac mae hi hefyd yn bensaer cymwysedig. Mae ei gwaith yn cynnwys blychau atgofion - casgliadau wedi'u curadu o wrthrychau y daethpwyd o hyd iddynt a gwrthrychau sy'n cael eu trysori - yn ogystal â darluniau cain gyda phen ac inc. Ei hyfforddiant pensaernïol yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei lluniau pen, inc a dyfrlliw o dirweddau, dinasweddau, adeiladau unigol ac anifeiliaid. Mae wedi cwblhau comisiynau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Previous
Previous

Steph Lord (Captivate Gallery | Oriel Captivate), Arctic Air

Next
Next

Clare Williams, From Birch and Alder, to the Blorenge and Skirrid